Newyddion

Gwobrau Great Taste 2026

Chocolates

Gwobrau Great Taste y Guild of Fine Food yw’r cynllun achredu mwyaf eang a dibynadwy yn y byd ar gyfer bwyd a diod.

Mae cael panel o dros 500 o arbenigwyr i brofi eich bwyd neu ddiod yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, awduron bwyd, a manwerthwyr. P’un ai yw’ch cynnyrch yn derbyn gwobr 1, 2 neu 3 seren, mae sêr Great Taste yn sêl bendith uchel eu parch.

Eleni bydd aelodau o'r Guild of Fine Food a rhai nad ydynt yn aelodau yn gallu gwneud ceisiadau drwy gydol y cyfnod cofrestru cyfan sydd bellach ar agor ac yn cau ar 27 Ionawr 2026.

I gael manylion am sut i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Great Taste - Guild of Fine Food.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.