Newyddion

Gwobrau FinTech Cymru 2022

Yn dathlu Gweithwyr Technoleg Ariannol Proffesiynol Cymru, cynhelir Gwobrau FinTech Cymru ar 16 Medi 2022 yn Tramshed, Caerdydd a gellir rhoi cynnig arni ac enwebu nawr.

A hithau’n wlad dechnoleg sy’n datblygu, mae gan Gymru’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain a gyda thwf cadarn yn y sector ariannol a phroffesiynol yng Nghymru, mae’r llwyfan wedi’i osod i gefnogi chwyldro digidol y wlad.

Mae gan Wobrau FinTech Cymru y gwobrau canlynol yn 2022:

  • Cwmni Technoleg Ariannol Newydd y Flwyddyn
  • Cwmni Technoleg Ariannol y Flwyddyn
  • Cwmni Technoleg Ariannol sy'n Tyfu y Flwyddyn
  • Arweinydd Technoleg Ariannol y Flwyddyn
  • Cynnyrch Newydd y Flwyddyn
  • Technoleg Ariannol er Budd y Flwyddyn
  • Stori Twf Gorau y Flwyddyn
  • Cyflymydd / Deorydd Gorau y Flwyddyn
  • Rhaglen Academaidd Orau sy'n Cefnogi Cwmnïau Technoleg Ariannol/Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn
  • Seren Technoleg Ariannol Newydd y Flwyddyn
  • Y Lle Gorau i Weithio y Flwyddyn

Hefyd, bydd gwobr Arweinydd Technoleg Ariannol y Flwyddyn a fydd yn cael ei ddewis gan y beirniaid ac yn cydnabod unigolyn sydd wedi cael dylanwad mawr ac effaith ar gymuned fusnes technoleg ariannol.

Mae’r gystadleuaeth yn cau ar 6 Mai 2022 am 5pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i FinTech Awards Wales
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.