Ydych chi’n barod i ganu clodydd eich hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr? Cymerwch ran yng ngwobrau eleni ac enwebwch heddiw!
Wedi’u trefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2026.
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch draw i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath. Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Busnes Cymru.