
Ydych chi’n barod i ganu clodydd eich hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr? Cymerwch ran yng ngwobrau eleni ac enwebwch heddiw!
Wedi’u trefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2025. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 16 Hydref 2025 yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2025 – gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 a hŷn)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Defnydd o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Mudiad y flwyddyn
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch draw i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.