Newyddion

Gwobrau Diwydiant Chwaraeon 2026 Cymdeithas Chwaraeon Cymru

mature women wearing sport's clothes

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) 2026 ar agor!

Eleni yw’r pedwerydd tro y cynhelir y digwyddiad, sy'n dod â chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector a thu hwnt i ddathlu’r gorau o’r diwydiant chwaraeon a hamdden yng Nghymru.

Mae’r rhestr lawn o'r categorïau gwobrau yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon 2026 WSA fel a ganlyn:

  • Y Fenter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
  • Y Fenter Orau i Hyrwyddo Menywod mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
  • Gwobr am yr Arloesi Gorau
  • Yr Ymrwymiad Gorau i'r Gymraeg
  • Y Fenter Cynaliadwyedd Orau
  • Y Fenter â’r Effaith Gymdeithasol Orau
  • Y Fenter Cydweithredu Orau
  • Yr Ymgyrch Fwyaf Dylanwadol
  • Gwobr am y Twf Busnes Gorau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd dydd Llun 16 Mawrth 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Applications for WSA Sports Industry Awards 2026 are open! - WSA.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.