Mae Gwobrau Cymuned y Lluoedd Arfog yn Soldiering On yn cael eu cynnal am yr 16ed tro eleni. Dyma raglen unigryw sy'n anrhydeddu cyflawniadau rhyfeddol o fewn cymuned y Lluoedd Arfog.
Dyma'ch cyfle i ddenu sylw at unigolion, grwpiau neu sefydliadau rydych chi’n credu sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol am eu cyfraniad i gymuned y Lluoedd Arfog.
Mae 12 categori amrywiol i anrhydeddu unigolion, timau a sefydliadau, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, teuluoedd, a'r rhai sy'n eu cefnogi. Bydd straeon rhanbarthol i’w clywed ynghyd â chynulliadau blaenllaw, ac mae'r Gwobrau yn creu cyfleoedd parhaus i gydnabod a rhoi sylw i’r cyfraniadau ysbrydoledig hyn.
Rhaid enwebu cyn 29 Mawrth 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Soldiering On Awards.