
Mae Gwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) yn dathlu llwyddiannau arweinwyr busnes rhagorol yn ein cymdeithas. Yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn, rhoddir gwobrau i'r rhai sy'n rhagori mewn meysydd fel arloesi, cynaliadwyedd, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, a mwy.
Yn agored i bawb – p’un ai eich bod yn gyfarwyddwr gweithredol, yn gyfarwyddwr anweithredol, yn bartner neu hyd yn oed yn brif gwnstabl – mae’r IoD eisiau clywed am y gwaith rydych chi’n ei wneud fel uwch wneuthurwyr penderfyniadau i helpu i greu gwell byd trwy fusnes.
Dyma’r categorïau:
- Cyfarwyddwr Anweithredol
- Datblygu Sgiliau
- Busnes Newydd
- Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector
- Cynaliadwyedd
- Arloesedd
- Busnesau Bach neu Ganolig (hyd at 50 o weithwyr)
- Busnesau Mawr (50+ o weithwyr)
- Rhyngwladol
7 Mawrth 2025 yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.
Bydd enwau’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill, a chynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener 9 Mai 2025 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Wales Director of the Year Awards | Institute of Directors