Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2026 ar agor ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau.
Mae'r Gwobrau'n gweld cannoedd o gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru o bob rhan o'r sector, a phob cornel o Gymru, yn ymuno â'i gilydd bob blwyddyn i ddathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion sy'n gwneud y diwydiant yr hyn ydyw heddiw.
Yn ôl am ei phumed flwyddyn, mae mwy na phedwar cant o bobl yn mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys arweinwyr ac arloeswyr sy'n sbarduno twf pellach yn economi Cymru.
Y categorïau yw:
- Prentis y flwyddyn
- Busnes Crefft y flwyddyn
- Gwobr Gwydnwch Busnes
- Cynhyrchydd Diodydd Cymru y flwyddyn
- Entrepreneur y flwyddyn
- Allforiwr y flwyddyn
- Cynhyrchydd y flwyddyn o'r Giât i’r Plât
- Cynhyrchydd y flwyddyn
- Gwobr Arloesedd
- Gwobr Gymunedol
- Seren y Dyfodol y flwyddyn
- Cwmni Cynydd y flwyddyn
- Cynhyrchydd Diodydd (cwmnïau gyda llai na 5 gweithiwr)
- Busnes Newydd y flwyddyn
- Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy
- Pencampwr Bwyd a Diod Cymru y flwyddyn
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Chwefror 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau 2026 – Gwobrau Bwyd a Diod
Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, yw creu sector bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gydag enw da byd-eang am ragoriaeth, gydag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.