Newyddion

Gwobrau Busnesau Newydd y DU 2025

Business start up - colleagues in an office

Mae Gwobrau Busnesau Newydd y DU 2025 ar agor ar gyfer ceisiadau! Dathlwch eich cyflawniadau gyda'r genedl.

Mae Gwobrau Busnesau Newydd y DU yn hyrwyddo ac yn dathlu'r busnesau newydd gorau a mwyaf disglair o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn cydnabod cyflawniadau'r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle ac wedi cymryd y risg i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Mae Gwobrau Busnesau Newydd y DU yn fwy na seremoni wobrwyo yn unig. Gyda mynediad unigryw i amrywiaeth o bartneriaid, noddwyr, manteision cymunedol a digwyddiadau, mae'r gwobrau'n cynnig cymuned o gymorth busnes i helpu busnesau newydd i ffynnu.

Mae’r cyfnod ar gyfer ceisiadau'n dod i ben ar 21 Chwefror 2025 gyda rownd derfynol Cymru yn cael ei chynnal ar 19 Mehefin 2025.

Bydd yr enillwyr rhanbarthol o Gymru yn ymuno â'r busnesau newydd gorau o bob rhan o'r DU yn Rowndiau Terfynol Gwobrau Busnesau Newydd, a gynhelir yn Ideas Fest yn Tring, Swydd Hertford, ar 11 Medi 2025. Bydd y dathliad cenedlaethol hwn o entrepreneuriaeth yn dod ag arloeswyr, arweinwyr busnes a hyrwyddwyr diwydiant ynghyd i anrhydeddu'r dalent eithriadol sy'n sbarduno ecosystem busnesau newydd y DU. 

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Celebrating Innovation and Excellence | Startup Awards UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.