Newyddion

Gwobrau Busnes Prydain 2026

Union Jack flag

Gwobrau Busnes Prydain yw’r llwyfan gwobrau busnes traws-ddiwydiant cenedlaethol sy'n cydnabod busnesau sy’n nodedig am eu cyflawniadau mewn arloesi, arweinyddiaeth, effaith ESG (amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu) a llwyddiant masnachol.

Os ydych chi neu'ch cwmni yn arloesi o fewn y gymuned fusnes Brydeinig, Gwobrau Busnes Prydain yw'r dewis amlwg i gydnabod eich llwyddiant a dathlu'ch busnes ar raddfa genedlaethol.

Dyma'r categorïau eleni:

  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Prif Swyddog Gweithredol y flwyddyn
  • BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes Mawr y Flwyddyn
  • Busnes Teuluol y Flwyddyn
  • Busnes Cymdeithasol-Gyfrifol y Flwyddyn
  • Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
  • Gwobr Bodlonrwydd Cwsmeriaid
  • Strategaeth Twf y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
  • Cwmni Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn
  • Cwmni Technoleg y Flwyddyn
  • Syniad Busnes Mwyaf Arloesol y Flwyddyn
  • Partner Buddsoddi'r Flwyddyn
  • Tîm Arweinyddiaeth y Flwyddyn
  • Gwobr Ysbrydoli Menywod mewn Busnes
  • Cwmni Cyfreithiol y Flwyddyn
  • Cwmni Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn
  • Buddsoddwr ym Mhrydain
  • Arweinydd Busnes y Flwyddyn

13 Mawrth 2026 yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: British Business Awards 2026 | Celebrating the Best in UK Business | Enter now!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.