Mae'r gwobrau, a drefnir gan Chambers Wales South East, South West and Mid, yn rhoi cyfle i fusnesau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru.
Mae cystadlu yng Ngwobrau Busnes Cymru yn gyfle i ennill cydnabyddiaeth am eich gwaith caled, arloesedd a llwyddiant. Yn agored i bob busnes sydd wedi'i leoli neu'n masnachu yng Nghymru, o ba bynnag faint neu sector, mae'r gwobrau'n rhoi llwyfan pwerus i arddangos cyflawniadau, codi eich proffil, a chysylltu â sefydliadau blaenllaw eraill ledled y wlad. P'un a ydych yn gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf neu'n fusnes newydd sy'n dod i'r amlwg, mae'n gyfle i ddathlu'r hyn sy'n gwneud i'ch busnes rhagori.
Dyma'r categorïau eleni:
- Gwobr Busnes Gwyrdd
- Gwobr Arloesedd
- Gwobr Cynllun Prentisiaeth y Flwyddyn
- Gwobr Cyflogwr Cynhwysol y Flwyddyn
- Gwobr Gwneuthurwr y Flwyddyn
- Gwobr Diwylliant Gweithle Eithriadol
- Busnes Newydd y Flwyddyn
- Gwobr Allforiwr y Flwyddyn
- Gwobr Cwmni Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn
- Gwobr Rhagoriaeth i Gwsmeriaid
- Gwobr Effaith Greadigol Cymru
- Gwobr Busnes Digidol
- Gwobr Rhagoriaeth y Gadwyn Gyflenwi
- Busnes y Flwyddyn Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Chwefror 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth ac i gystadlu: Wales Business Awards 2026.
Credyd: © Crown Copyright