Newyddion

Gwobrau Busnes Cymru 2025

British Rototherm, Neath Port Talbot

Mae Gwobrau Busnes Cymru 2025 yn arddangos y gorau sydd gan fyd busnes Cymru i'w gynnig ac maent yn agored i geisiadau gan fusnesau, elusennau a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Mae'r gwobrau, a drefnir gan Chambers Wales South East, South West and Mid, yn rhoi cyfle i fusnesau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 12 Mehefin 2025 yn Mercure Holland House, Caerdydd. Mae'r digwyddiad yn amlygu'r busnesau anhygoel sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac yn dathlu llwyddiannau'r enillwyr.

Dyma gategorïau’r gwobrau eleni: 

  • Gwobr Busnes Gwyrdd
  • Gwobr Arloesedd 
  • Gwobr Cynllun Prentisiaeth y Flwyddyn 
  • Gwobr Busnes Byd-eang y Flwyddyn 
  • Gwobr Gwneuthurwr y Flwyddyn 
  • Gwobr Diwylliant Gweithle Eithriadol 
  • Gwobr Busnes Digidol 
  • Gwobr Tegwch a Chynhwysiant 
  • Gwobr Allforiwr (BBaCh) y Flwyddyn 
  • Gwobr Allforiwr Newydd y Flwyddyn 
  • Gwobr Cwmni Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn 
  • Gwobr Rhagoriaeth i Gwsmeriaid 
  • Busnes y Flwyddyn Cymru 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener, 7 Mawrth 2025.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Wales Business Awards 2025


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.