Newyddion

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025

Busnes Cymdeithasol Cymru

A yw eich menter gymdeithasol yn cydbwyso elw â buddion diriaethol yng Nghymru? 

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025 ar agor - ac ni allwn aros i gael gwybod mwy am eich sefydliad ac y gwaith gwych rydych yn ei wneud.

P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n arwain y mudiad i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol a chreu cyfleoedd mewn cymunedau ledled Cymru, mae yna gategori i chi.

Eleni, y categorïau yw:

  • Un i’w Wylio - ar gyfer mentrau gwych newydd llai na dwy flwydd oed
  • Arloesiad y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol - ar gyfer mentrau creadigol sy’n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd
  • Gwobr Effaith Cymdeithasol - i'r rhai sy’n wych o ran profi eu heffaith trwy ddata a straeon cryf
  • Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn  
  • Gwobr Menter Gymdeithasol sy’n Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
  • Hyrwyddwr Menywod y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol
  • Gwobr Menter Gymdeithasol yn y Gymuned - sefydliad seiliedig ar le sy’n cael effaith fawr
  • Gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru 

Gall ennill - neu gyrraedd y rhestr fer - roi hwb i forâl y tîm, rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr, a chodi’ch proffil gyda chleientiaid, cyllidwyr, a’r sector ehangach.

Mae ceisiadau eleni’n cau ar 14 Gorffennaf 2025 - peidiwch â cholli’ch cyfle i gael eich cydnabod.

Fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod ar ein platfform mynediad ar-lein i Wobr Busnes Cymdeithasol Cymru.   


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.