Newyddion

Gwobrau Busnes Caerdydd 2026

Cardiff

Bellach yn eu 12fed flwyddyn, bydd Gwobrau Busnes Caerdydd 2026 unwaith eto yn tynnu sylw at y cwmnïau a'r entrepreneuriaid rhagorol sy'n gyrru'r ddinas yn ei blaen.

Dyma'r categorïau eleni:

  • Busnes Adeiladu'r Flwyddyn
  • Busnes Creadigol y Flwyddyn
  • Busnes Digidol y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Busnes Teuluol y Flwyddyn
  • Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn
  • Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
  • Busnes Arloesedd y Flwyddyn
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
  • Busnes Hamdden a Lletygarwch y Flwyddyn
  • Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn
  • Busnes Manwerthu'r Flwyddyn
  • BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Busnes Technoleg y Flwyddyn
  • Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn
  • Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

I gael ei ystyried, rhaid bod eich busnes wedi'i leoli o fewn ardal awdurdod lleol Cyngor Sir Caerdydd a rhaid talu trethi busnes i Gyngor Sir Caerdydd hefyd. Dylai'r busnes fod wedi dechrau masnachu ar neu cyn 6 Tachwedd 2025 a gallwch ymgeisio mewn hyd at 2 gategori.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Medi 2026 am 5pm.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Home - Cardiff Business AwardsCardiff Business Awards.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.