
Bellach yn eu 11eg flwyddyn, bydd Gwobrau Busnes Caerdydd 2025 unwaith eto yn tynnu sylw at y cwmnïau a'r entrepreneuriaid rhagorol sy'n gyrru'r ddinas yn ei blaen.
Dyma'r categorïau eleni:
- Busnes Adeiladu'r Flwyddyn
- Busnes Creadigol y Flwyddyn
- Busnes Digidol y Flwyddyn
- Cyflogwr y Flwyddyn
- Entrepreneur y Flwyddyn
- Busnes Teuluol y Flwyddyn
- Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn
- Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
- Busnes Arloesedd y Flwyddyn
- Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
- Busnes Hamdden a Lletygarwch y Flwyddyn
- Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn
- Busnes Manwerthu'r Flwyddyn
- BBaCh y Flwyddyn
- Busnes Newydd y Flwyddyn
- Busnes Technoleg y Flwyddyn
- Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn
- Person Busnes Ifanc y Flwyddyn
I gael ei ystyried, rhaid bod eich busnes wedi'i leoli o fewn ardal awdurdod lleol Cyngor Sir Caerdydd a rhaid talu trethi busnes i Gyngor Sir Caerdydd hefyd. Dylai'r busnes fod wedi dechrau masnachu ar neu cyn 7 Tachwedd 2024 a gallwch ymgeisio mewn hyd at 2 gategori.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Medi 2025 am 5pm.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Home - Cardiff Business AwardsCardiff Business Awards