Newyddion

Gwobrau Busnes Caerdydd 2022

Gallwch nawr wneud cais ar gyfer Gwobrau Busnes Caerdydd 2022! 

Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflym fel canolfan ar gyfer gweithgarwch economaidd ac fel lle gwych i weithio a byw.

Nid yn unig y mae cwmnïau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn cael eu denu i adleoli i'r ddinas, mae cwmnïau presennol yn ehangu ac mae yna gyfleoedd newydd gyffrous i gwmnïau newydd mewn sectorau fel gwyddorau bywyd a'r economi ddigidol.

Yn 2015, daeth Gwobrau Busnes cyntaf Caerdydd â'r gymuned fusnes ynghyd am y tro cyntaf i gydnabod y mentrau entrepreneuraidd ac arloesol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth a bydd yn parhau i ddathlu'r busnesau gorau yng Nghaerdydd a'r potensial enfawr sy'n bodoli ym mhrifddinas Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i ttps://cardiffbusinessawards.com/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.