
Mae'r Gwobrau Agored yn cynnig deg cyfle i artistiaid anabl sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yr Alban neu Loegr.
Mae'r gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £413,000 i artistiaid anabl gyda gwobrau unigol yn amrywio o gomisiynau sbarduno gwerth £15,000 i £80,000 ar gyfer cefnogaeth sylweddol i gynyrchiadau sy’n barod i’w harddangos.
Mae'r rownd hon o wobrau comisiynu yn cefnogi artistiaid anabl beiddgar, gwych i greu, datblygu a rhannu gwaith anhygoel.
Croesewir ceisiadau gan artistiaid anabl o bob disgyblaeth a chefndir gan gynnwys y rhai nad ydynt, o bosibl, wedi gwneud cais o'r blaen. Os oes gennych syniad sy'n gwthio ffiniau ac angen rhywun i gredu ynddo, rydyn ni eisiau clywed gennych.
Mae'r gwobrau hyn yn bosibl gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Lloegr.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mynegiant o ddiddordeb: Dydd Llun 29 Medi 2025 hanner dydd.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Unlimited Open Awards 2025/26
Canllaw Arfer Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru: Datblygwyd y canllaw hwn gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes a chynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â a chefnogi pobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n tyfu eu busnes yng Nghymru.