Newyddion

Gwobr Ewropeaidd 2026 i Ferched sy’n Arloesi

smiling female Muslim scientist in goggles and hijab during experiment in chemical laboratory

Mae'r wobr yn cydnabod merched o bob rhan o'r UE a gwledydd sy'n gysylltiedig â Horizon Europe, y mae eu harloesiadau tarfol yn gyrru newid cadarnhaol i bobl a'r blaned.

Dyfernir y Wobr Ewropeaidd i Ferched sy’n Arloesi ar y cyd gan y Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesi a Thechnoleg (EIT) a'r Cyngor Arloesi Ewropeaidd (EIC). Trwy'r cydweithrediad hwn, mae'r EIT a'r EIC yn tynnu sylw at gronfa fawr o ferched sy’n arloesi, gan gynnig mwy o gyfleoedd i arloeswyr, a darparu modelau rôl ysbrydoledig i fenywod a merched ym mhobman.

Mae arloeswyr o'r DU yn gymwys i wneud cais.

Mae tri chategori i’r gwobrau:

  • Yng nghategori Merched sy’n Arloesi yr EIC, dyfernir tair gwobr o EUR 100 000, EUR 70 000 a EUR 50 000 i'r tri chais gorau.
  • Yng nghategori Arloeswyr y Dyfodol yr EIC, dyfernir tair gwobr o EUR 50 000, EUR 30 000 a EUR 20 000 i'r tri chais gorau gan 'Arloeswyr y Dyfodol’ addawol o dan 35 oed.
  • Y Dyfernir Gwobr Merched sy’n Arwain yr EIT, i arweinwyr benywaidd eithriadol o Gymuned EIT. Dyfernir EUR 50 000 i'r enillydd, a dyfernir EUR 30 000 ac EUR 20 000 i’r ddau sy’n ail ac yn drydydd, yn y drefn honno.

Rhaid i'r ymgeisydd fod yn sylfaenydd neu'n gyd-sylfaenydd y cwmni neu'r sefydliad. Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais i un categori yn unig. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan reithgor arbenigol annibynnol.

Mae cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau am 4pm ar 25 Medi 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: 2026 European Prize for Women Innovators - Innovate UK Business Connect

Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Cymorth ac arian | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.