Newyddion

Gwobr Dewi Sant: Gwobr Genedlaethol Cymru

St David Awards Ceremony

Enwebiadau Busnes ac Arloesi nawr ar agor.

Ydych chi'n adnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad y mae ei lwyddiant busnes neu ei arloesedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru? 

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobr Dewi Sant, Gwobrau Cenedlaethol Cymru. Rydym yn chwilio am enwebeion rhagorol ar gyfer y categorïau Busnes ac Arloesi - pobl a sefydliadau y mae’r hyn mae nhw’n ei gyflawni yn creu cyfleoedd, yn gyrru cynnydd ac yn cryfhau Cymru. 

Mae'r Wobr Busnes ac Arloesedd yn cydnabod llwyddiant busnes, creu swyddi a chynhyrchion, gwasanaethau, technolegau neu syniadau arloesol sydd o fudd i gymdeithas.

Efallai eich bod yn adnabod entrepreneur arloesol, busnes llwyddiannus yng Nghymru, ymchwilydd sy'n troi syniadau'n effaith, neu dîm sy'n defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i ddatrys heriau'r byd go iawn. Nawr yw'r amser i helpu i sicrhau bod eu cyfraniad yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol.

Ystyriwch enwebu unrhyw berson neu grwpiau yn eich etholaethau a'ch rhanbarthau sy’n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol ac annog eraill i enwebu hefyd.  

Mae enwebiadau ar gyferGwobr Dewi Sant 2027 ar agor tan 4 Rhagfyr 2026.

Am wybodaeth am gategorïau, cymhwysedd a sut i enwebu, ewch i wefan: Enwebwch am Wobr Dewi Sant | LLYW.CYMRU.

Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.