Newyddion

Gwnewch gais am Gronfa Cadwyn Gyflenwi Great British Energy

Wind turbines

Bydd Cronfa Cadwyn Gyflenwi Great British Energy (GBE): Ynni Gwynt ar y Môr a Rhwydweithiau yn dyfarnu hyd at £300 miliwn mewn cyllid grant cyfalaf i adeiladu capasiti gweithgynhyrchu'r DU ar gyfer cydrannau cyfyngedig allweddol yn y sectorau ynni gwynt ar y môr a galluogi rhwydweithiau trydan.

Mae twf yn y galw am gydrannau ynni gwynt ar y môr a rhwydweithiau trydan yn fy na chapasiti'r gadwyn gyflenwi, gan arwain at dagfeydd, amseroedd arweiniol hirach, costau prosiect uwch ac oedi mewn prosiectau. Bydd y Gronfa’n targedu buddsoddiad tuag at y cydrannau ynni gwynt ar y môr a rhwydweithiau trydan mwyaf cyfyngedig i fynd i'r afael â chyfyngiadau hanfodol yn y gadwyn gyflenwi a gwella diogelwch y gadwyn gyflenwi yn y DU.

Bydd ffenestr ymgeisio’r Gronfa’n cau ar 10 Rhagfyr 2026 (neu’n gynharach os yw’r gronfa ariannu wedi’i dyrannu’n llawn.) Rhaid tynnu’r cyllid grant i lawr rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2030.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Great British Energy (GBE) Supply Chain Fund: Offshore Wind and Networks | Great British Energy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.