Cyllid grant i helpu mudiadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghymru i gyflawni canlyniadau gwrth-hiliol.
Mae cyllid cyfalaf o rhwng £3,000 a £15,000 ar gael rhwng canol Tachwedd 2024 a 14 Mawrth 2025. Bydd cyllid o hyd at £20,00 yn cael ei ystyried ar gyfer ceisiadau eithriadol a chymhellol.
Mae'r grant cyfalaf yn helpu sefydliadau cymwys i dalu costau cyfalaf cyflawni canlyniadau gwrth-hiliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- adeiladu arddangosfa
 - prynu blychau arddangos
 - digideiddio casgliadau
 - gosodweithiau celf
 - cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol
 - mannau diwylliannol a chymunedol
 - gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu
 - arallgyfeirio ac ehangu casgliadau
 
Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech:
- fod yn sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghymru / gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu sy'n gweithredu yma
 - fod yn gweithredu yn y sectorau'r Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd, Treftadaeth neu Chwaraeon / gyda phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn
 - yn gallu prynu asedau cyfalaf erbyn 14 Mawrth 2025 a'u hawlio erbyn 24 Mawrth 2025.
 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2024 am 5pm.
Cliciwch ar y dolenni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:
- Gwneud Cais i Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol 2024 i 2025 | LLYW.CYMRU
 - Datganiad Ysgrifenedig: Lansio Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol (Grant Cyfalaf) (3 Medi 2024) | LLYW.CYMRU