
Mae’r system i wneud ceisiadau i Gronfa Cymunedau Lleol y Co-op bellach ar agor.
Bydd y rownd ariannu nesaf, sy'n dechrau ym mis Hydref 2025, yn cefnogi cymunedau ledled y DU gyda chyfanswm o £5 miliwn. Mae hyn yn golygu y bydd £6,000 i'w rannu rhwng tri achos lleol ym mhob cymuned.
Eleni mae'r gronfa’n ceisio cefnogi prosiectau sy'n galluogi pobl i gael mynediad at fwyd, creu cyfleoedd i bobl ifanc, gwella lles meddyliol pobl, hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac adeiladu dyfodol cynaliadwy.
Gallwch wneud cais os ydych chi'n grŵp nid-er-elw sydd angen cyllid i gyflawni prosiect penodol sydd o fudd i'ch cymuned leol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ar 6 Gorffennaf 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Co-op