Newyddion

Gwneud cais am y Cynllun Uwchraddio Boeleri

Heat pump on side of house - garden with flowers

Trwy'r Cynllun Uwchraddio Boeleri, gallech gael grant i dalu rhan o'r gost o gyfnewid systemau gwresogi tanwydd ffosil am bwmp gwres.

Mae systemau gwresogi tanwydd ffosil yn cynnwys:

  • Olew
  • Nwy
  • Trydan
  • LPG (nwy petrolewm hylifedig)

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig grantiau o hyd at £9,000 yng Nghymru a Lloegr i helpu i dalu costau gosod.

Gallwch ddefnyddio'r grant i ailosod system wresogi tanwydd ffosil mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer eich busnes neu'ch cartref.

Mae'r cynllun yn agored i bobl yng Nghymru a Lloegr.

Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at fod yn fwy cynaliadwy, arddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned sy’n tyfu o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch heddiw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.