 
  Grant refeniw o helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn cymundau.
Nod y grantiau hyn yw cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig a helpu i gyflawni Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2024 i 2028.
Mae gan y rhaglen grant ddau fath o grantiau refeniw:
- Grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu – Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o grwpiau gwarchodedig, neu'n cefnogi ymgysylltu â'r grwpiau hynny.
- Grant arloesi – Cyllid i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella dulliau cyfathrebu a chydweithio, ac i fabwysiadu dulliau arloesol sy'n ymateb i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chynhwysiant ar lefel ranbarthol, leol neu gymunedol.
Cyllid a meini prawf
- Grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu – Grantiau llai: £2,000 i £9,999. Grantiau mwy: £10,000 i £100,000.
- Grant arloesi – Dyfarniadau o £40,000 i £200,000.
Pwy all wneud cais am y grant?
- Sefydliadau'r trydydd sector (er enghraifft, grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig, mentrau cymdeithasol).
- Awdurdodau lleol (ar sail cydlafurio).
- Cyrff cyhoeddus eraill (ar sail cydlafurio).
Rhaid anfon ceisiadau erbyn 11.59 pm ar 16 Tachwedd 2025 fan bellaf.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Gwneud cais am gyllid o dan y rhaglen grant cydraddoldeb a chynhwysiant | LLYW.CYMRU.
Gall fod yn anodd gwybod lle i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir o gyllid.
Mae ein parth cyllid yma i’ch helpu. Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes, darllenwch ganllawiau sy'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid, chwiliwch am wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr a darllenwch am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru.