
Darganfyddwch a ddylech chi neu'r bobl sy'n gweithio i chi fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig at ddibenion treth tra’n gweithio yn y diwydiant gwallt a harddwch.
Mae yna wahanol ffyrdd o weithio yn y diwydiant gwallt a harddwch. Er enghraifft, cael eich cyflogi gan salon, siop barbwr neu’n llawrydd fel gweithiwr hunangyflogedig.
Gallai gweithio'n llawrydd olygu eich bod chi’n:
- cynnig gwasanaethau o'ch salon eich hun
- gweithio fel steilydd gwallt symudol neu therapydd harddwch naill ai yn eich cartref eich hun neu yng nghartref cleientiaid
- rhentu cadair neu ystafell mewn salon
At ddibenion treth rydych naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig. I benderfynu ar eich statws cyflogaeth, bydd angen i chi ystyried y telerau ac amodau yn eich contract.
Bydd angen i chi hefyd ystyried eich arferion gwaith gwirioneddol o ddydd i ddydd. Bydd y rhain yn penderfynu pwy sy'n gorfod talu:
- Treth Incwm
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- TAW
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: