Newyddion

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Child at nursery class painting a pumpkin

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog teuluoedd sy’n gweithio i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn arbed arian ar eu costau gofal plant.

Mae’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda’u costau gofal plant, gan arbed hyd at £2,000 y flwyddyn iddynt ar gyfer pob plentyn hyd at 11 oed, neu £4,000 y flwyddyn hyd at 16 oed os yw’n blentyn anabl. 

Gall teuluoedd fod yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn berthnasol:    

  • mae ganddyn nhw blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maen nhw’n stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes ganddynt blentyn anabl, maen nhw’n cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed    
  • mae’r rhiant a’i bartner (os oes un ganddo) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd    
  • nid ydyn nhw’n ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un    
  • nid ydyn nhw’n cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant     

 Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra llawn i’w chael ar GOV.UK.   

I ddarganfod a allwch gael help i dalu am ofal plant yng Nghymru, dewiswch y ddolen ganlynol: Cael help i dalu am ofal plant | LLYW.CYMRU.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.