Newyddion

Gwiriadau ffin ychwanegol wedi'u canslo yn sgil cytundeb rhwng y DU a'r UE

Shipping containers - logistics worker

Mae llywodraeth y DU yn atal cyflwyniad gwiriadau ffin ychwanegol ar fewnforion anifeiliaid byw o'r UE ac ar nwyddau anifeiliaid a phlanhigion penodol o Iwerddon, a hynny er mwyn cefnogi busnesau Prydain a hwyluso masnach cyn cyflwyniad y fargen iechydol a ffytoiechydol (SPS) newydd gyda'r UE.

Bydd y cytundeb yn sefydlu parth iechydol a ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE.

O dan y cytundeb, ni fydd angen cynnal gwiriadau ffin ar fewnforion anifeiliaid byw o'r UE nac ar rai nwyddau planhigion ac anifeiliaid sy'n cyrraedd o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon (a elwir yn nwyddau anghymwys), a hynny gan fod eu gweithrediad yn anghymesur.

Bydd rhai anifeiliaid byw sy’n cael eu mewnforio o'r UE yn parhau i gael eu harchwilio pan fyddant wedi cyrraedd pen eu taith, yn seiliedig ar gyfres o ffactorau risg. Gall nwyddau anghymwys o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon barhau i ddod i mewn i'r DU heb archwiliad corfforol ond bydd arnynt dal angen hysbysiad ac ardystiad ymlaen llaw mewn rhai achosion.

Mae bioddiogelwch y DU yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth, a bydd gwyliadwriaeth seiliedig ar risg yn parhau i reoli bygythiadau bioddiogelwch y cynhyrchion hyn.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Extra border checks cancelled ahead of UK-EU deal - GOV.UK

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn dysgu am farchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau, rheoli llwythi a llawer mwy: Hafan | Busnes Cymru - Allforio


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.