Newyddion

Gwerthusiad Effaith Twrnamaint UEFA EURO 2028

Principality Stadium Cardiff

Yn Hydref 2023, llwyddodd y DU ac Iwerddon (DU&I) i sicrhau’r hawliau i gynnal UEFA EURO 2028. 

Cynhelir y twrnamaint yn Lloegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon, dros 31 o ddiwrnodau ym mis Mehefin a Gorffennaf 2028. Cynhelir gemau mewn 9 stadiwm ac 8 dinas: Birmingham, Caerdydd, Dulyn, Glasgow, Lerpwl, Llundain, Manceinion a Newcastle.

Mae Partneriaid Lletya yn anelu at weithredu un gwerthusiad cyfun o’r effeithiau economaidd-gymdeithasol a’r manteision etifeddiaeth o UEFA EURO 2028, a fydd yn diwallu anghenion partneriaid cyflawni domestig (Y Gymdeithas Bêl-droed, Cymdeithas Bêl-droed yr Alban, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon; Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru), yn ogystal â phartneriaid dinasoedd lletya, ac UEFA.

Am ragor o wybodaeth am y tendr sydd ar ddod, ewch i: UEFA EURO 2028 Tournament Impact Evaluation - Find a Tender.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.