Newyddion

Gweminarau – Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Webinar

Os ydych chi'n cael incwm o hunangyflogaeth a/neu eiddo, bydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn gyfreithiol ar gyfer Treth Incwm o'r dyddiadau canlynol:

  • 6 Ebrill 2026, os yw eich trosiant dros £50,000 yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025
  • 6 Ebrill 2027, os yw eich trosiant dros £30,000 yn y flwyddyn dreth 2025 i 2026
  • 6 Ebrill 2028, os yw eich trosiant dros £20,000 yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027

Bydd y gweminarau canlynol yn eich helpu i ddeall y camau angenrheidiol y bydd angen i landlordiaid, cydberchnogion eiddo a busnesau eu cymryd i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol:

Os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n landlord heb gyfrifydd neu geidwad cyfrifon, cofrestrwch ar gyfer y weminar hon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Droi Treth yn Ddigidol, i'ch helpu i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, sydd bellach yn ofyniad cyfreithiol o 6 Ebrill 2026, i'r rhai sydd â throsiant dros £50,000.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i fideos byr defnyddiol, gan gynnwys 'How do I sign up for Making Tax Digital for Income Tax' – sydd ar gael ar sianel YouTube CThEF.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.