Newyddion

Gweminarau Gweithle a Chyflogaeth Am Ddim gan Acas

Person attending a webinar

Mae arbenigwyr Acas yn cynnal gweminarau rheolaidd ar bynciau’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth a chysylltiadau cyflogaeth.

Gallwch ymuno â nhw'n rhad ac am ddim, does ond angen i chi gofrestru ymlaen llaw a gallwch ofyn cwestiynau yn ystod y weminar. 

Mae'r gweminarau sydd i ddod yn cynnwys:

  • Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025: Diweddariadau mis Hydref a'r llwybr i 2027
  • Cyflwyniad i ddiswyddo a chwtogi swyddi 
  • Absenoldeb gofalwyr: esboniad o'r gyfraith
  • Ceisiadau gweithio hyblyg: astudiaeth achos a'r gyfraith
  • Hanfodion y gweithle yn y gaeaf
  • Gweithleoedd cynhwysol: gwneud newidiadau i gefnogi niwroamrywiaeth yn well
  • Iechyd meddwl yn y gwaith
  • Absenoldeb oherwydd salwch: cefnogi eich staff
  • Addasiadau rhesymol: sut i'w cael yn iawn

Gallwch hefyd ddod o hyd i recordiadau o weminarau blaenorol a'u gwylio.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Webinars | Acas.

Defnyddiwch Ddigwyddiadur Busnes Cymru i chwilio am hyfforddiant, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio a seminarau sy’n gysylltiedig â busnes a mwy gan amrywiaeth o sefydliadau.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.