
Ymunwch a Chymru Iach ar Waith ar gyfer gweminar 'Teithio Llesol' ddiddorol ac addysgiadol i ddysgu sut y gall gweithleoedd ledled Cymru hyrwyddo ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio.
Bydd Dr Tom Porter, y siaradwr arbenigol, yn archwilio:
- Beth yw teithio llesol a pham ei fod yn bwysig yng Nghymru
- Y manteision eang i'ch gweithlu
- Ffyrdd syml o gael staff i gymryd rhan a'u hysgogi
- Sut i ddechrau arni neu adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes
Byddwch hefyd yn clywed gan Charlie Gordon, Rheolwr Prosiectau yn Sustrans, a fydd yn rhannu enghreifftiau o'r hyn y mae Sustrans yn ei wneud gyda'r gweithle yn y maes hwn.
Bydd y sesiwn yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb, gyda Dr Porter a fydd yn ateb cwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw.
Cynhelir y webinar ar dydd Mercher 17 Medi 2025, 10.00am i 11.00am.
I gadw eich lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweminar teithio iach - Cymru Iach ar Waith