
Ymunwch â Gweminar Cymru Iach ar Waith (CIW) Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr.
Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.
Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau Absenoldeb.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU
- Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
- Mewnwelediadau gan Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
- Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.
Manylion:
- Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
- Amser: 10:30am i 11:30am
- Platfform: Microsoft Teams