Mae WRAP Cymru yn cynnal gweminar am ddim 'Ailfeddwl sut rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn ffynnu' sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr a busnesau sy'n rhoi cynhyrchion ar y farchnad ac sy’n ymgysylltu â'u cadwyn gyflenwi.
Bydd y sesiwn awr hon yn cynnwys:
- Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol yr economi gylchol
- Y newid sylfaenol o fodelau busnes llinol i fodelau busnes cylchol
- Mewnwelediadau i'r manteision y mae sefydliadau'n debygol o’u gweld wrth roi modelau busnes cylchol ar waith
- Cymwysiadau ymarferol gydag enghreifftiau bywyd go iawn
Manylion y digwyddiad, bydd y sesiwn yn cael ei gynnal ar:
- Dydd Mercher, 16 Medi 2026 am 10am
Os ydych chi’n ansicr beth mae economi gylchol a modelau busnes cylchol yn ei olygu, a beth mae hyn i gyd yn ei feddwl a ble i ddechrau, bydd y sesiwn hon yn eich arfogi â gwybodaeth sylfaenol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a chyfrifol ynghylch beth i'w wneud nesaf.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Modelau Busnes Cylchol: Ailfeddwl sut rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn ffynnu.
Chwiliwch ein Digwyddiadur am hyfforddiant, seminarau, gweithdai a rhwydweithio busnes gan wahanol gyrff: Digwyddiadur Busnes Cymru.