Newyddion

Gweminar Modelau Busnes Cylchol

circular economy symbol

Mae WRAP Cymru yn cynnal gweminar am ddim 'Ailfeddwl sut rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn ffynnu' sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr a busnesau sy'n rhoi cynhyrchion ar y farchnad ac sy’n ymgysylltu â'u cadwyn gyflenwi.

Bydd y sesiwn awr hon yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol yr economi gylchol   
  • Y newid sylfaenol o fodelau busnes llinol i fodelau busnes cylchol  
  • Mewnwelediadau i'r manteision y mae sefydliadau'n debygol o’u gweld wrth roi modelau busnes cylchol ar waith   
  • Cymwysiadau ymarferol gydag enghreifftiau bywyd go iawn   

Manylion y digwyddiad, bydd y sesiwn yn cael eu cynnal ar: 

  • Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf am 2pm 
  • Os ydych chi’n ansicr beth mae economi gylchol a modelau busnes cylchol yn ei olygu, a beth mae hyn i gyd yn ei feddwl a ble i ddechrau, bydd y sesiwn hon yn eich arfogi â gwybodaeth sylfaenol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a chyfrifol ynghylch beth i'w wneud nesaf.    

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynolModelau Busnes Cylchol: Ailfeddwl sut rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn ffynnu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.