Hoffech chi wybod mwy am sut y gall eich sefydliad fanteisio ar gyllid ymchwil a datblygu ar gyfer prosiectau cydweithio, dod o hyd i bartneriaid a hyrwyddo eich gallu technegol a’ch anghenion?
Mae'r Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn cynnal Gweminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar 17 Mawrth 2026 i ddarganfod pa gyfleoedd a allai fod o fudd i'ch sefydliad: Digwyddiadur Busnes Cymru - Gwe-seminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol.
Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.