
Mae Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2025, yn gosod dyletswydd ar unrhyw un sy'n cyhoeddi adolygiadau neu wybodaeth adolygu i gymryd camau effeithiol i atal cyhoeddi a dileu:
- adolygiadau ffug neu gudd, wedi'u cymell
- gwybodaeth adolygu ffug neu gamarweiniol
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) chwiliad gwe o dros 100 o fusnesau sy'n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr. Mae'r canlyniadau wedi codi pryderon am ddealltwriaeth busnesau o'u rhwymedigaethau ynghylch atal adolygiadau a gwybodaeth adolygu ffug a chamarweiniol.
Gweminar yw hon i helpu busnesau sy'n cyhoeddi adolygiadau cwsmeriaid i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd sy'n ymwneud ag adolygiadau cwsmeriaid ffug neu rai a allai fod yn gamarweiniol.
Cynhelir y weminar ddydd Iau 4 Medi 2025, rhwng 2pm a 3pm.
Bydd y cofrestru'n cau am hanner dydd ddydd Mercher 3 Medi 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Complying with consumer law if you publish online reviews | CMA Connect