Newyddion

Gwella Canlyniadau Iechyd i Fenywod a Merched Ar Draws Cymru

female patient and doctor

Mae SBRI (Small Business Research Initiative) yn ceisio canfod a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau cydweithredol a all ddangos tystiolaeth o botensial a gallu tyfu atebion sy’n agos at y farchnad ac atebion datblygol trwy arddangosiadau yn y byd go iawn a fydd yn cefnogi ac yn gofalu am bob menyw a merch, gan arwain at ddiagnosis cynharach a chyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros a gwelliannau i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaeth heb beryglu’r canlyniadau.

Bydd y prosiectau'n gydweithrediad â busnes, y byd academaidd a gofal sylfaenol ac eilaidd i ddatblygu a dangos y potensial i gyflawni gwelliannau mesuradwy ym maes Iechyd Menywod a Merched a chynorthwyo GIG Cymru i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Iechyd Menywod.

Bydd y dystiolaeth a geir drwy gyflawni'r prosiectau hyn yn llywio argymhellion yn y dyfodol ar gyfer defnydd posibl yn 2026, sy'n cyd-fynd â datblygiad y canolfannau ledled Cymru. Y bwriad wedyn yw cael cyllid Cam 3 ychwanegol (os oes cyllid ar gael yn y gyllideb) i gynyddu a lledaenu'r atebion mwyaf addawol ledled Cymru.

Mae’r meysydd blaenoriaeth penodol sydd o ddiddordeb yn cynnwys:

  • Gwella Bylchau Cyfathrebu
  • Canlyniadau gwell i gleifion
  • Mynd i'r Afael â'r Ardaloedd lle na cheir Digon o Wasanaethau
  • Grymuso Cleifion
  • Mynd i'r Afael â Stigma ac Ymwybyddiaeth
  • Sgrinio Iechyd
  • Datrysiadau Lleol

Mae cyllid o £900,000 ar gael ar hyn o bryd ar gyfer portffolio o brosiectau (a all newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y cyflwyniadau a dderbynnir). Mae SBRI yn chwilio am ystod eang o brosiectau, o arddangosiadau cyflym neu gost isel i arddangoswyr ar raddfa fawr.

Cynhelir digwyddiad briffio ar-lein ar 21 Awst 2025 am 10am, dewiswch y ddolen ganlynol i sicrhau eich lle: Microsoft Virtual Events Powered by Team

Darllenwch y Briff Her llawn: Improving health outcomes for women and girls across Wales | SBRI Centre of Excellence


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.