Newyddion

Gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer "oes newydd o gydweithio" ag undebau llafur

hand shake

Mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi dweud y bydd gweithwyr Cymru a'u cymunedau yn elwa ar newid pwysig yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisïau.

Y bore yma (21 Mai 2026), mewn prif araith i Gyngres TUC Cymru a gynhelir bob dwy flynedd, amlinellodd y Prif Weinidog raglen sy'n rhoi lleisiau gweithwyr wrth wraidd y llywodraeth, o gaffael a sgiliau i adfer diwydiannol a'r trawsnewid gwyrdd.

Ar hyn o bryd, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario mwy na £8 biliwn y flwyddyn ar gaffael. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y contractau cyhoeddus a ddyfernir i gwmnïau yng Nghymru o tua 55% i dros 70%, gyda'r potensial i gefnogi degau o filoedd o swyddi.

Ymhlith prif bolisïau Llywodraeth newydd Cymru bydd Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, a sefydlir i ddenu swyddi gwaith teg o safon uchel i Gymru. Bydd ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol newydd ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth hefyd yn llywio atebion i heriau cymhleth, gan gynnwys y trawsnewid cyfiawn i ynni glân.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer "oes newydd o gydweithio" ag undebau llafur | LLYW.CYMRU.

Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim i'ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth am gontractau a chyfleoedd gyda gwasanaeth cyhoeddus Cymru a Phrynwyr-Gontractwyr: GwerthwchiGymeu: Croeso I GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.