Newyddion

Gweithredu ynglŷn ag iechyd a llesiant yn y gweithle

Happy employees

Ar gyfartaledd, rydym yn treulio dros draean o'n bywydau effro yn y gwaith. Mae hyn yn golygu eich bod fel cyflogwr, yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a llesiant eich gweithwyr.

Mae cymryd camau i gefnogi iechyd a llesiant eich gweithwyr o fudd i'ch gweithlu, eich gweithle a'ch busnes.

Cymerwch olwg ar adnoddau rhad ac am ddim Cymru Iach ar Waith (HWW) isod, pob un wedi'i gynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle:

  • Offeryn Arolwg i Gyflogwyr HWW: Yn galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael cyngor clir, adborth ac awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle.
  • Cymorth gan Gynghorwr Gweithle: Yn caniatáu i gyflogwyr gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr Gweithle HWW er mwyn cael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallan nhw eu rhoi ar waith yn syth yn eu gweithle.
  • Rhaglen Mentora Cymheiriaid: Yn helpu cyflogwyr ledled Cymru i gysylltu a rhannu profiadau o’r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle, sydd wedi’u profi.

Archwiliwch wybodaeth ac adnoddau ar ystod eang o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar wefan HHW: Gweithredu ynglŷn ag iechyd a llesiant yn y gweithle - Cymru Iach ar Waith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.