Mae'r Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, eisiau bod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth a gweithio gyda'r sector i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf.
Yn ddiweddar, cwrddodd â chadeiryddion pedwar Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Cymru i glywed eu barn am sut y gall y llywodraeth gefnogi'r sector. Mae'r Gweinidog yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr eraill.
Yn ystod ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan heddiw (dydd Mawrth Awst 18), dywedodd y Gweinidog:
Rwyf am i'r Llywodraeth hon fod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth. Rydyn ni am weithio gyda'r sector i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf - gan gynnig croeso go iawn wrth hefyd helpu busnesau i dyfu, arloesi a llwyddo.
Mae twristiaeth yn hanfodol bwysig i economi Cymru, gan gynhyrchu tua 4.3% o werth ychwanegol gros Cymru (£3.5 biliwn) a thros 11% o swyddi bob blwyddyn. Mae'n cynnal cymunedau, yn cefnogi swyddi ac yn helpu i rannu diwylliant, iaith a thirwedd Cymru â'r byd.
Dyna pam rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i edrych ar sut y gallwn ni ddiwygio ardrethi busnes i gefnogi hamdden a lletygarwch, a pham rydyn ni'n ymgynghori ynghylch newidiadau i'r trothwy 182 diwrnod.
Byddwn i'n annog cymaint o bobl yn y diwydiant â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Hoffwn i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau twristiaeth am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu a'r cyfleoedd maen nhw'n eu gweld, ac rwyf wedi dechrau cwrdd â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector yn ystod yr haf.
Mae gan Gymru lawer o bethau gwych i'w cynnig i ymwelwyr a llawer o weithredwyr twristiaeth talentog. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n credu y gallwn ni ei gwneud yn haws i fusnesau wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, helpu'r sector i ffynnu a sicrhau bod rhagor o bobl yn dewis Cymru fel lle i ymweld ag ef, ei fwynhau a dychwelyd iddo.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf | LLYW.CYMRU.