Newyddion

Gweithdy Grant Cynhwysiant Digidol Cymru 2025

Digital devices

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Grant Cynhwysiant Digidol Cymru a fydd yn dechrau yn Ebrill 2026. Ein bwriad yw agor ar gyfer ceisiadau ym mis Rhagfyr 2025 i chwilio am sefydliadau ledled Cymru sydd chwilio am gyllid ar gyfer angen lleol am gymorth cynhwysiant digidol.

Er mwyn helpu i lunio'r canllawiau grant, rydym yn cynnal cyfres o Weithdai Grant sy'n cynnig cyfle i sefydliadau gyfrannu at ddatblygu'r Grant a'r canllawiau cysylltiedig.

Dyddiadau a lleoliadau'r gweithdy:

  • Dydd Mawrth 14 Hydref 2025: Parc y Scarlets, Llanelli, SA14 9UZ -10am i 12pm
  • Dydd Mercher 15 Hydref 2025: Theatr Soar, Merthyr, CF47 8UB - 10am i 12pm
  • Dydd Mawrth 21 Hydref 2025: Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB - 2pm i 4pm
  • Dydd Mercher 22 Hydref 2025: MRC, Llandrindod, LD1 6AH - 10am i 12 pm

I gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at y Gangen Cynhwysiant Digidol digitalinclusionmailbox@llyw.cymru erbyn 30 Medi 2025, gan gynnwys y manylion canlynol:

  • Enw
  • Sefydliad
  • Swyddogaeth
  • Lleoliad y gweithdy a ffefrir
  • Gwybodaeth am anghenion deietegol ac unrhyw ofynion mynediad neu ofynion penodol eraill sydd gennych
  • Yn unol â Safonau’r Gymraeg hoffem gadarnhau eich dewis iaith.  Byddwn yn gwerthfawrogi petaech yn nodi pa iaith yr hoffech ei defnyddio yn y gweithdy: Cymraeg / Saesneg

Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig ac rydym yn disgwyl galw uchel ac felly rydym yn annog sefydliadau i enwebu'r unigolyn sydd yn y sefyllfa orau i'w cynrychioli.

Bydd rhagor o fanylion a gwahoddiadau ffurfiol yn cael eu rhannu maes o law.

I'r rhai nad ydynt yn gallu dod i'r sesiynau , rydym yn bwriadu cynnal sesiwn rithwir yn ddiweddarach. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.