Newyddion

Gweithdai lles pobl ifanc yn y gwaith

apprentices

Mae Cymru Iach ar Waith wedi comisiynu RCS i archwilio iechyd a llesiant pobl ifanc 16 i 24 oed yn y gweithle, gan roi ffocws ar iechyd meddwl.

Am fod straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn effeithio fwyfwy ar weithwyr ifanc, bydd y prosiect hwn yn casglu mewnwelediadau gan weithwyr ifanc a chyflogwyr ledled Cymru i ddeall yr heriau allweddol a nodi pa gefnogaeth sy’n gweithio orau.

Bydd y canfyddiadau’n helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i wella llesiant yn y gweithle a chefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy.

Pwy all gymryd rhan?

  • Pobl ifanc a phrentisiaid sy’n barod i rannu eu profiadau
  • Cyflogwyr a rheolwyr sy’n ceisio deall anghenion pobl ifanc yn well
  • Gweithwyr proffesiynol AD, arweinwyr llesiant, mentoriaid neu unrhyw un sydd â mewnwelediad perthnasol

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cyfle hwn gyda gweithwyr ifanc, prentisiaid, cydweithwyr, neu unigolion eraill sydd â diddordeb yn llesiant pobl ifanc yn y gwaith.

Dyddiadau’r gweithdai

Ydych chi'n siarad am iechyd meddwl yn y gwaith?

Mae’n bwysicach nag erioed i roi sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall amlygiad hirdymor i straen na ellir ei reoli achosi problemau iechyd meddwl neu waethygu problemau sy’n bod eisoes: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.