Newyddion

Gweithdai Arloesi Un-i-un: Broughton

Engineers meeting - robotics

Ydych chi’n entrepreneur, yn fusnes bach neu’n ddyfeisiwr sydd â syniad arloesol am gynnyrch neu wasanaeth? Neu efallai eich bod yn fusnes bach a chanolig sy’n wynebu heriau o ran datblygu cynnyrch neu weithgynhyrchu?

Ymunwch â ni am sesiwn galw heibio un-i-un am ddim i gael arweiniad a chymorth arbenigol.

Bydd AMRC Cymru yn darparu cymorth technegol un-i-un i’ch helpu i strwythuro eich problem a/neu’ch syniad am gynnyrch, ac i edrych ar ffyrdd posibl ymlaen – gan gynnwys ystyried 5 diwrnod pellach o gymorth peirianneg am ddim gan AMRC Cymru.

Bydd Busnes Cymru yn cynnig cymorth masnacheiddio un-i-un i greu cynllun busnes cadarn, rhagfynegi rhagamcaniadau ariannol, a llywio’r llwybr i’r farchnad. 

Am ragor o wybodaeth ewch i, 1-to-1 Innovation Workshops: Broughton | AMRC.  Mae sawl dyddiad ar gael.

Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yma gallwch ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Cymorth ac arian | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.