Newyddion

Gweithdai AI am ddim i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru

AI

Mae rhedeg busnes yn ddigon anodd heb geisio cadw i fyny â'r dechnoleg ddiweddaraf. Os ydych wedi clywed pobl yn siarad am “AI” ac yn meddwl tybed a yw’n werth eich amser – mae’r gweithdy wyneb yn wyneb hwn ar eich cyfer chi.

Byddwn yn dangos ffyrdd go iawn ac ymarferol i chi ddefnyddio offer AI fel ChatGPT i arbed amser, denu mwy o gwsmeriaid, a gwneud i’ch busnes sefyll allan, a helpu i droi diddordeb yn archebion.

Bydd y gweithdai, ym mis Chwefror a mis Mawrth 2026, yn cael eu cyflwyno gan MWT Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Maent wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol.

I archebu eich lle ac i gael rhagor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Ffyrdd Syml o Gefnogi eich Busnes Twristiaeth | Diwydiant


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.