Newyddion

Gweinidog newydd yn cymeradwyo potensial gwynt ar y môr i Gymru

Talacre beach, light house and off shore wind farm

Mae Gweinidog newydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ynni wedi dweud bod Cymru ar agor i fusnes o ran gwynt ar y môr a'i botensial i fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.

Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, hefyd fod Llywodraeth newydd Cymru yn awyddus i ddatblygu perthynas agored a chydweithredol gyda'r sector gwynt ar y môr a phartneriaid allweddol eraill fel Llywodraeth y DU ac Ystâd y Goron.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei chenhadaeth economaidd newydd i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r DU o fewn 10 mlynedd.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru dair fferm wynt ar y môr sy'n cynhyrchu 726MW o drydan.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gweinidog newydd yn cymeradwyo potensial gwynt ar y môr i Gymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.