Newyddion

Gwasanaethau bysiau i ddychwelyd i reolaeth gyhoeddus

Bus Stop / Safle Bws

Mae Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi cael ei basio gan y Senedd, gan roi Cymru ar flaen y gad wrth wella gwasanaethau bysiau yn y DU.

Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru, gan roi teithwyr yn gyntaf a rhoi mwy o lais i'r sector cyhoeddus ar sut mae gwasanaethau'n gweithredu mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Gan weithio'n agos ag awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, undebau cwmnïau bysiau, a'r cyhoedd, bydd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn defnyddio gwybodaeth leol i ddylunio a chynllunio gwasanaethau sy'n rhoi llais y teithiwr wrth wraidd eu rhwydwaith bysiau lleol.

Nod y Bil yw darparu trafnidiaeth ddibynadwy, ddiogel a fforddiadwy i bob cymuned, gan fynd i'r afael â theimlo’n ynysig a lleihau allyriadau trafnidiaeth, i gynnig un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn i bob teithiwr ledled Cymru.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam mawr tuag at greu Cymru decach, wyrddach a mwy cysylltiedig. Mae'n gosod y sylfeini ar gyfer system drafnidiaeth fodern, integredig gydag amserlenni symlach i ddiwallu anghenion teithwyr heddiw ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Bwriedir dechrau cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, cyn Gogledd Cymru yn 2028, De-ddwyrain Cymru yn 2029 a Chanolbarth Cymru yn 2030.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwasanaethau bysiau i ddychwelyd i reolaeth gyhoeddus | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.