
Mae gweithwyr ar fin cymryd rheolaeth o'u materion treth wrth i'r DU gyhoeddi gwasanaeth Talu Wrth Ennill (TWE) ar-lein newydd ar gyfer tua 35 miliwn o drethdalwyr y DU wrth i Gyllid a Thollau EF (CThEF) nodi mwy na 50 o fesurau i drawsnewid system trethi a thollau’r DU.
Bydd y gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer holl drethdalwyr TWE yn ei gwneud hi'n symlach ac yn haws gwirio a diweddaru eu hincwm, lwfansau, rhyddhadau a threuliau, a bydd ar gael trwy eu Cyfrif Treth Personol neu drwy ap CThEF.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o Transformation Roadmap CThEF.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: New HMRC service announced for workers to take control of their tax affairs - GOV.UK.