Mae busnesau'r DU yn cael cynnig cymorth recriwtio arbenigol dim ffi i lenwi swyddi gwag wrth i ymgyrch genedlaethol wedi'i thargedu at sectorau allweddol gael ei lansio.
Gall pob busnes, p'un a oes ganddynt un neu gant o swyddi ar gael, ddefnyddio gwasanaeth recriwtio proffesiynol dim ffi Canolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i'r ymgeisydd cywir.
Bydd yr ymgyrch ddiweddaraf yn targedu sectorau â nifer uchel o swyddi gwag, gan gynnwys gweithgynhyrchu, logisteg, manwerthu, lletygarwch, iechyd a gofal cymdeithasol, ac adeiladu,
Mae cymorth i gyflenwi busnesau gydag ymgeiswyr sy'n barod i weithio yn eu hardal yn cynnwys:
- Hyfforddiant pwrpasol drwy ddatblygu Rhaglenni Academi Gwaith sy’n Seiliedig ar Sectorau, sy'n rhoi'r sgiliau ar gyfer swyddi gwag i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau diweithdra ochr yn ochr â lleoliad gwaith a chyfweliad gwarantedig i roi hwb i yrfa newydd.
- Creu Rhestr fer CV au a chynnal cyfweliadau yn y ganolfan waith.
- Hysbysebu swyddi gwag am ddim er mwyn sicrhau bod yr ymgeiswyr cywir yn gweld y swydd.
- Cyngor arbenigol ar recriwtio gan reolwr cyfrif pwrpasol.
- Cymorth i sefydlu profiad gwaith, shifftiau prawf a phrentisiaethau.
- Canllawiau ar gyflogi pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Businesses missing out on specialist JCP recruitment support worth thousands - GOV.UK.