Mae gwaith wedi dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, a fydd yn nodi rhaglen weithredu traws-lywodraethol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur fel un her gysylltiedig.
Bydd Bwrdd Hinsawdd a Natur newydd yn cael ei sefydlu i helpu i lunio'r Cynllun, gan ddod ag arbenigedd allanol at ei gilydd i ddarparu her adeiladol, cefnogi cydlynu a helpu i ddwyn i gyfrif dros gyflawni.
Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Llyr Gruffydd, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, a bydd yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu profiadau a blaenoriaethau pobl a chymunedau ledled Cymru.
Bydd y cynllun yn sefydlu rhaglen weithredu traws-lywodraethol i gefnogi datblygu cynaliadwy, cryfhau gwytnwch hinsawdd a natur, gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, cefnogi pontio cyfiawn, a siartio llwybr ymarferol tuag at sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
Bydd yn helpu Cymru i ymateb i effeithiau y gall pobl eu gweld a'u teimlo eisoes, o lifogydd sy'n effeithio ar gartrefi a busnesau a thanau gwyllt diweddar sy'n niweidio tirweddau a chynefinoedd, i bwysau ar fwyd a ffermio, afonydd llygredig, bywyd gwyllt sy'n dirywio, hafau poethach, newid arfordirol, a risgiau cynyddol i iechyd, cymunedau ac economïau lleol.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru | LLYW.CYMRU.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, cymryd rhan!