Newyddion

Gwaith adeiladu'n dechrau ar Sefydliad Cenedlaethol newydd dros Chwaraeon ac Iechyd

Virtual reality headset

Mae gwaith adeiladu ar y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd (NISH), canolfan arloesol newydd sy'n ymroddedig i hyrwyddo iechyd, chwaraeon ac arloesedd technoleg ar fin dechrau.

Bydd y prif gyfleuster, pedwar llawr, 2000m2 ym mynedfa Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn dod â phartneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd ynghyd i greu ecosystem arloesol, y cyntaf o'i bath - wedi'i ddylunio i wella iechyd cyhoeddus, chwaraeon elît a chymunedol, ac ysgogi twf economaidd ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe a chefnogaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Cyngor Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NISH yw cyflymu twf technoleg chwaraeon, technoleg feddygol ac arloesedd gofal iechyd yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe drwy ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac rhyngwladol ynghyd.

Bydd y Sefydliad yn cefnogi cwmnïau deillio a chwmnïau sy'n tyfu drwy ddeori a gweithgarwch ymchwil a datblygu a galluogi mynediad at ddata, arbenigedd a chyfleusterau i wella datblygiad cynnyrch. Mae ganddo hefyd y nod o ddatblygu twf academaidd rhanbarthol drwy greu swyddi a buddsoddiad, a gwella iechyd y cyhoedd gan gefnogi arloesedd ataliol ac adsefydlu.

Bydd yr adeilad pedwar llawr newydd yn cynnwys:

  • Mannau i weithio mewn partneriaeth a chydweithredu
  • Academi Iechyd a Lles
  • Ystafelloedd efelychu chwaraeon o'r radd flaenaf
  • Ystafelloedd arloesi a deori
  • Cyfleusterau addysgu a chyfryngau arloesol
  • Hyb Vodaphone, sy'n darparu arbenigedd technoleg ar y safle

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gwaith adeiladu'n dechrau ar Sefydliad Cenedlaethol newydd dros Chwaraeon ac Iechyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.